Fixture

Bethesda RFC | 1st Team 25 - 6 Llandudno RFC | 1st Team

Match Report
23 December 2015 / Team News

Pesda 25 - Llandudno 6

Gyda Bethesda’n dioddef o brinder chwaraewyr oherwydd anafiadau a galwadau gwaith roedd wynebu Llandudno ar Dôl Ddafydd yn edrych fel tipyn o dalcen caled.

Wedi colli’r ddwy gêm olaf yn erbyn Llandudno, doedd gan hogia’ Pesda ddim i’w golli yn Rownd Gyntaf Cwpan Gogledd Cymru ac roedden nhw’n edrych yn fywiog iawn er gorfod cychwyn am 12.30 o’r gloch oherwydd Ffeinal Cwpan y Byd.

Aeth Bethesda ar y blaen yn gynnar drwy gais gan Lee Sherlock a throswyd hi gan Daniel Pritchard. Cafwyd cais cofiadwy gan Gethin Long a ddilynodd ei gic drwodd i sgorio cais unigol ardderchog.

Er i Ryan Pike gicio 2 gôl gosb i’r ymwelwyr, y tîm cartref oedd ar y blaen o 12 pwynt i 6 ar hanner amser.

Ychwanegodd Pritchard 2 gôl gosb i Fethesda yn yr ail hanner cyn i Jared Mitchell sgorio cais o bellter gyda 4 o’i gyd-chwaraewyr yn ei gysgodi ac yn disgwyl am bas! Ciciodd Pritchard y trosiad i roi sgôr terfynol o 25 pwynt i 6 i’r tîm cartref.

Croesodd Mathew Parry am yr hyn a fuasai wedi bod yn gais y gêm ond dyfarnwyd bod y bas derfynol gan Dylan Hughes ymlaen. Perfformiad calonogol dan amgylchiadau anodd i’r Howgets.

 

With Bethesda players suffering from injuries and work commitments it looked like it was going to be a long afternoon against Llandudno at Dôl Ddafydd.

Having lost the last 2 games against Llandudno, Bethesda had nothing to lose in the First Round of the North Wales Cup but they looked lively despite the 12.30pm kickoff due to the World Cup Final.

Bethesda took an early lead from a Lee Sherlock try converted by Daniel Pritchard. Gethin Long gave the home crowd a memorable moment by scoring an excellent individual try by chasing his own kick ahead.

Although Ryan Pike kicked 2 penalty goals for the visitors it was the home side that held a 12 points to 6 lead at half time.

Pritchard added 2 penalty goals for Bethesda in the second half before Jared Mitchell scored a long range try with 4 Bethesda players shadowing him and waiting for a pass! Pritchard added the conversion making the final score 25 points to 6.

Mathew Parry crossed for what would have been the try of the match but the final pass from Dylan Hughes was adjudged to be a forward one. An encouraging performance under difficult circumstances for the Howgets.

Players Fixture player info not published.
Gallery

There doesn't appear to be any tagged photos.

Upload and Tag Photos
|