Fixture

Llanishen RFC | 1st Team 19 - 10 Bethesda RFC | 1st Team

Match Report
04 January 2016 / Team News

Llanishen 23 Bethesda 11

Yr oedd peth amheuaeth hyd at un o’r gloch a fyddai’r gêm yma yn cael ei chwarae ai peidio oherwydd cyflwr y cae. Llwyddodd gwaith caled y tirmon a’i griw yn ystod  yr awr cyn y gic gyntaf i achub y sefyllfa.

Aeth Llanisien ar y blaen ymhen chwarter awr yn dilyn cic gosb lwyddiannus gan y maswr Rhodri Thomas. O fewn ychydig funudau, aeth Pesda ar y blaen yn dilyn cais nodweddiadol gan yr wythwr Arwyn Griffith. Methodd Daniel Pritchard i drosi o drwch blewyn.  

Ar ôl hanner awr, anafwyd Iwan Williams a daeth Lee Sherlock i’r cae. Yr oedd y gêm yn eitha’ cyfartal hyd yn hyn, gyda chwaraewyr Pesda’n amddiffyn yn ddewr ac effeithiol  yn ôl eu harfer. Arbedwyd ceisiau yn dilyn taclo grymus gan Daniel, Alwyn Roberts a Dylan Williams, a oedd yn chwarae allan o safle yn y canol. Llwyddodd Daniel  Pritchard gyda chic gosb i wneud y sgôr yn 8 bwynt i 3 erbyn yr egwyl.

Llanisien aeth a hi yn yr ail hanner gyda chais gan eilydd flaenasgellwr yn union wedi’r ail-gychwyn, yn dilyn hyrddiad effeithiol gan y pac cartref. Ychwanegodd Daniel gôl gosb arall o fewn pum munud.

Eiliadau yn ddiweddarach, daeth trobwynt y gêm. Bu Rhodri Thomas yn ffodus i dderbyn y bêl yn dilyn ymgais i glirio’r llinell a hynny yn groes i gyfeiriad y chwarae ar y pryd. Sgoriodd y maswr dros gais rhwng y pyst.  

Er i’r chwarae fynd o un pen i’r llall am weddill y gêm, Thomas eto a ychwanegodd at gyfanswm Llanisien gyda dwy gôl gosb.

Yr oedd nifer o chwaraewyr hŷn y clwb yn absennol, a gall pob un o’r ddau ar bymtheg a gynrychiolodd y clwb ddoe fod yn falch o’u hymroddiad, eu gallu, a’u dewrder. Diolch hefyd i’r cefnogwyr am eu ffyddlondeb yn teithio mor bell. Braf iawn oedd gweld cyn-gadeirydd Bethesda, yr hen gyfaill Alwyn Evans yn cefnogi’r hogia’.

 

Whether this match would be played was in some doubt right up to kickoff time but the Llanishen ground staff worked hard to make the pitch playable..

Llanishen went ahead after 15 minutes play with a successful penalty kick from outside half Rhodri Thomas. In a few minutes Bethesda hit back with a typical try from No 8 Arwyn Griffith. Daniel Pritchard’s conversion attempt was just wide.

Captain Iwan Williams had to leave the field with an injury and he was replaced by Lee Sherlock. The match was evenly balanced by now with the Bethesda players defending with their usual efficency. Powerful tackling from Daniel Pritchard, Alwyn Roberts and backrower Dylan Williams, playing at centre, was a feature on this defence. Pritchard was also successful with a penalty kick making the score 8 points to 3 for Bethesda at the interval

Llanishen took the honours in the second period and their replacement flanker scored an early try. Pritchard closed the gap 5 minutes later with another penalty goal.

Thomas’ fortunate interception from a Bethesda clearance attempt swung the match in Llanishen’s favour. He scored between the posts and added the conversion.

Although play went from end to end for the remainder of the match Thomas’ 2 penalty goals gave the home side a comfortable lead.

A number of Bethesda’s senior players were unavailable for the match and every one of the seventeen players representing the club can be proud of their effort, their ability and their guts. The club appreciated the presence of so many faithful supporters who made the long journey south. It was also a pleasure to see past-chairman, our old friend Alwyn Evans supporting the boys.

Players Fixture player info not published.
Gallery

There doesn't appear to be any tagged photos.

Upload and Tag Photos
|