Fixture

COBRA | 1st Team 9 - 7 Bethesda RFC | 1st Team

Match Report
02 February 2016 / Team News

COBRA 9 - Bethesda 7

Talcen caled fu ymweld â Meifod i Fethesda sawl gwaith yn y gorffennol  a doedd dim byd yn wahanol eleni eto.

Roedd y cae yn drwm iawn yn dilyn y gaeaf gwlyb ac roedd y gwynt cryf yn mynd i sicrhau gêm o ddau hanner.

Ac felly y bu. Wynebodd Bethesda'r elfennau yn yr hanner cyntaf ac amddiffyn fu raid drwy gydol y cyfnod yma. Ciciodd Llew Williams 3 gôl gosb i'r tîm cartref i sicrhau mantais o 9 pwynt i 0 erbyn yr egwyl.

Bethesda reolodd y meddiant a'r tir yn yr ail gyfnod ond roedd amddiffyn COBRA'n styfnig iawn. Pan gollodd y tîm cartref chwaraewr i'r gell callio llwyddodd asgellwr Bethesda, Daniel Pritchard i groesi yn y gornel yn dilyn symudiad i'r ochor dywyll. Ciciodd Pritchard y trosiad anodd iawn i sicrhau 7 pwynt i'r ymwelwyr.

Buddugoliaeth i'r tîm cartref felly a phwyntiau pwysig iddyn nhw yn y frwydr i aros yn Adran 1 Gogledd. 

 

Meifod has never been an easy place to visit for Bethesda and this season's fixture proved to be no exception.

A heavy pitch and a strong wind seemed to point to a game of two halves and so it proved.

Bethesda faced the elements in the first half and spent most of the time defending. Llew Williams' 3 penalty goals secured a 9 points to 0 lead for the home side by the interval.

It was COBRA's turn to defend in the second half and their defence proved to be very strong indeed. Bethesda took full advantage when a home player received a yellow card and wing Daniel Pritchard squeezed over in the corner following a blind side move. Pritchard slotted over the conversion from a difficult angle to secure 7 points for his side.

An important victory for the home side making their survival in Division 1 North even more secure.

 

Players Fixture player info not published.
Gallery

There doesn't appear to be any tagged photos.

Upload and Tag Photos
|